Mae’r Mothersuckers Project yn trefnu arddangosfa deithiol i ddechrau yng Nghymru yn 2014. Bydd ‘Parental Body’ yn ceisio archwilio sut y gall y profiad o fod neu o ddod yn rhiant lunio arfer artistiaid; fel pwnc llawn mynegiant sydd a’i rhinwedd ei hun. Drwy ddathlu persbectifau unigol a heriol, mae ‘Parental Body’ yn bwriadu ehangu’r rhagdybiaethau cyffredin ynghylch bod yn rhiant.

Bydd PARENTAL BODY yn dangos gwaith sydd yn aml ar ymylon eich arfer beunyddiol mewn fframwaith diwylliannol difrifol, gan gynnig  cydnabyddiaeth feirniadol. Bydd hyn hefyd yn gyfle i fod yn rhan o rwydwaith rhyngwladol o artistiaid sy’n ymwneud â materion cyffredin.
Dylai artistiaid sydd â diddordeb gyflwyno’r canlynol i:  
mothersuckersproject@gmail.com
Enw a manylion cyswllt
cv diweddar
datganiad yr artist (oddeutu 300 o eiriau)
dim mwy na 5 enghraifft o’ch gwaith ar ffurf jpeg/tiff, (dim mwy na 5mg yr un)
ymateb i’r cwestiwn canlynol (oddeutu 300 o eiriau):
Ym mha ffordd y mae’r profiad o fod yn rhiant wedi llunio eich arfer?
dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 15fed o Hydref